Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Augusta Praetoria Salassorum |
Daearyddiaeth | |
Sir | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Gwlad | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Roedd Alpes Poenninae neu yn llawn Alpes Poenninae et Graiae yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Hi oedd y mwyaf gogleddol o'r tair talaith fechan yn ardal yr Alpau. Roedd y dalaith yn cynnwys yr Alpau yn ardal y Valais, rhwng Ffrainc, Y Swistir a'r Eidal. Yn y gorllewin roedd yn ffinio â Gallia Narbonensis, gyda talaith Raetia i'r dwyrain, Germania Superior i'r gogledd ac Alpes Cottiae a'r Eidal i'r de.
Roedd Alpes Poenninae yn wreiddiol yn diriogaeth llwythi Galaidd y Nantuates, y Veragroa, y Sedunos a'r Uberos. Gorchhfygwyd hwy gan Iŵl Cesar yn y flwyddyn 58 CC, a meddianwyd y diriogaeth yn 15 CC dan yr ymerawdwr Augustus gan fyddin oedd dan arweiniad Tiberius a Drusus. Nid yw'n eglur a grewyd y dalaith yr adeg honno neu'n ddiweddarach yn nheyrnasiad Claudius.
Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau. Credir fod y gair Poenninae yn dod o Penn, duw Celtaidd y mynyddoedd. Daw Graiae o fytholeg Groeg.
Yn y 4g concrwyd y diriogaeth gan y Bwrgwndiaid, oedd wedi symud i mewn i'r dalaith yn heddychlon yn ystod y ganrif cynt.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |